- Cynheswch yr olew mewn padell neu ddysgl gaserol fawr sy’n dal gwres. Ychwanegwch y ciwbiau cig oen, y garlleg a’r winwns. Browniwch y cig yna ychwanegwch y past cyri a’i gymysgu’n dda. Ychwanegwch y bwmpen cnau menyn.
- Arllwyswch y stoc cig oen a’r siytni mango i mewn a’i roi mewn popty sydd wedi ei ragdwymo i 160ºC / 140ºC ffan / Marc Nwy 3 gyda chaead arno am 1½-2 awr neu nes bo’r cig yn frau.
- Tynnwch y caead, ychwanegwch y planhigyn wy a’r flodfresychen a’r darnau mango i’r cyri 25 munud cyn diwedd yr amser coginio, a’i roi yn ôl yn y popty heb gaead.
- Gweinwch y cyri gyda reis a’i addurno gyda’r coriander.
Cyri Cig Oen Cymru a mango
- Amser paratoi 25 mun
- Amser coginio 2 awr
- Ar gyfer 4
Bydd angen
- 450g ysgwydd Cig Oen Cymru PGI heb lawer o fraster, wedi’i dorri’n ddarnau mawr
- 1 llwy fwrdd olew
- 2 ewin garlleg, wedi’u malu
- 2 winwnsyn, wedi’u plicio a’u torri’n chwarteri
- 2 lwy fwrdd past cyri rogan josh neu past o boethder canolig
- ½ pwmpen cnau menyn (tua 350g), wedi’i phlicio a’i thorri’n ddarnau
- ½ planhigyn wy wedi ei dorri’r giwbiau 2cm
- ½ blodfresychen wedi ei thorri’n fflorets
- 300ml stoc cig oen
- 2 lwy fwrdd siytni mango
- 1 mango ffres, wedi’i blicio a’i dorri’n ddarnau
- 1 llwy fwrdd coriander ffres, wedi’i falu
Gwybodaeth am faeth
- Ynni: 3403 KJ
- Calorïau: 812 kcals
- Braster: 43.1 g
- Sy’n dirlenwi: 19.5 g
- Halen: 2.08 g
- Haearn: 5.43 mg