- Tynnwch y llinynnau a gwnewch y cig oen yn fflat. Rhowch y goes cig oen mewn dysgl fas ac ychwanegwch gynhwysion y marinâd – cyfunwch nhw gyda’i gilydd yn drwyadl, gorchuddiwch y ddysgl a’i rhoi yn yr oergell am awr.
- Tynnwch y cig o’r marinâd a rhowch sgiwerau metal yn gris-groes drwy’r cig i’w gadw’n fflat.
- Coginiwch ar farbeciw gyda chaead – gosodwch yn fflat ar grid y barbeciw (ddim yn rhy agos at y glo) gan droi’n aml am tua 40-50 munud.
- Neu, rhowch y cig yn syth ar y silff mewn ffwrn wedi ei thwymo’n barod ar 180°C / 160⁰C ffan / Nwy 4-5 am tua 40-50 munud nes bod y cig yn frown ar y tu allan ac ychydig bach yn binc yn y canol. Cofiwch roi tun rhostio oddi tano i ddal y diferion.
- Cymerwch y marinâd sydd dros ben a berwch yn dda nes ei fod wedi tewychu ychydig – tua 5 munud, ac arllwyswch hwn dros y cig oen. Gweinwch gyda llysiau Tsieineaidd wedi eu tro-ffrio.
Coes Cig Oen Cymru gyda chnau coco, tsili a choriander
- Amser paratoi 10 mun
- Amser coginio 50 mun
- Ar gyfer 5+
Bydd angen
- 1 goes Cig Oen Cymru PGI, heb yr asgwrn
- 400ml tun llaeth cnau coco, isel ei fraster
- 2 tsili coch, heb yr hadau ac wedi eu torri’n fân
- 2 ewin garlleg, wedi eu malu
- Coriander ffres, wedi ei dorri’n fras
- 1 leim, y sudd a’r croen wedi ei ratio
Gwybodaeth am faeth
- Ynni: 993 KJ
- Calorïau: 238 kcals
- Braster: 14.8 g
- Sy’n dirlenwi: 3.9 g
- Halen: 0.20 g
- Haearn: 1.71 mg