
Cynhwysion
- 750g o ffiled Cig Eidion Cymru PGI
 - 1 llwy fwrdd o olew
 - Pupur a halen
 - 1-2 llwy fwrdd o fwstard Seisinig
 - 40g madarch porcini wedi sychu
 - 250ml dŵr berw
 - 500g madarch castan
 - 25g menyn hallt
 - 2 ewin garlleg, wedi eu malu
 - Llond llaw o ddail teim ffres
 - 6 sleisen o prosciutto
 - 500g crwst pwff parod
 - 1 ŵy, wedi ei guro
 
Ar gyfer y saws:
- 300ml stoc cig eidion
 - 200ml port neu Madeira
 - 1 llwy de o fenyn
 
                 180
              
              
                Amser coginio
              
            
                45
              
              
                  Amser paratoi 
              
            
                5+
              
              
                   Yn gweini
              
            - Rhwbiwch y ffiled gyda’r olew a rhoi digon o bupur a halen arni. Twymwch badell ffrio fawr ar wres uchel, ychwanegu’r ffiled a’i serio ar bob ochr am ryw 5 munud nes ei fod yn frown drosto. Tynnwch y cig o’r gwres a'i roi ar rac weiren i oeri. Unwaith iddo oeri (tua chwarter awr) brwsiwch y mwstard drosto.
 - Yn y cyfamser sociwch y madarch porcini yn y dŵr berw nes eu bod yn feddal (tua 20 munud). Tynnwch nhw o’r hylif (gan gadw hwnnw), eu gwasgu’n sych a’u torri’n fân.
 - Torrwch y madarn castan yn fân neu defnyddiwch brosesydd bwyd. Twymwch y menyn mewn padell ffrio fawr ac ychwanegu’r garlleg mân, y madarch castan a porcini, pupur a halen a’r dail teim. Gadewch y cyfan i goginio nes bod y dŵr wedi anweddu (tua 20 munud). Gadewch i oeri’n llwyr a chadwch chwarter o’r madarch ar gyfer y saws.
 - Gosodwch 3 dalen fawr o gling ffilm ar gownter, yn gorgyffwrdd. Rhowch y prosciutto ar ei ben, gan orgyffwrdd yr ymylon i wneud un ddalen sy’n ddigon mawr i lapio’r ffiled. Taenwch tri cwarter o’r gymysgedd madarch dros y prosciutto ac yna gosodwch y cig ar ei ben a thaenu gweddill y gymysgedd mardarch dros y top. Rholiwch y prosciutto o gwmpas y ffiled gan ddefnyddio’r cling ffilm cyn ei lapio’n dynn a’i oeri am chwarter awr.
 - Ar arwyneb sydd â blawd arno, rholiwch y toes i mewn i sgwâr neu betryal sy’n ddigon mawr i lapio’r ffiled - tua 35cm sgwâr. Tacluswch gyda chyllell a rholio ymylon yr ochrau sy’n uno ychydig yn deneuach. Brwsiwch yr ymylon gyda’r wy wedi ei guro a thynnwch y cling ffilm oddi ar y ffiled a rhoi’r cig yng nghanol y toes. Lapiwch y toes ar hyd y ffiled, gan orgyffwrdd ychydig yn y sêm. Plygwch y ddau ben fel parsel a’i roi ar blat wedi ei iro gydag ochr y sêm yn wynebu i lawr. Crafwch y toes bob 1cm a’i addurno gyda’r toes dros ben. Brwsiwch y Wellington gyda’r wy, pwyswch yr addurniadau arno a’i frwsio eto gyda’r wy. Oerwch am 20 munud (neu hyd at 12 awr os hoffech).
 - I wneud y saws, tywalltwch y port i mewn i sosban gyda’r gymysgedd madarch rydych chi wedi ei chadw, a’i ferwi. Mudferwch nes i’r port dewychu yna ychwanegwch y stoc a’r hylif madarch porcini a’i fudferwi am 10 munud arall nes ei fod fel surop. Ychwanegwch bupur a halen ac yna cymysgwch y menyn i mewn. Rhowch i un ochr.
 - Twymwch y ffwrn i 200ºC / 180ºC fan / Nwy 6 a thwymo hambwrdd pobi am 5 munud. Rhowch bapur pobi ar yr hambwrdd pobi a rhoi’r Wellington ar ei ben. Coginiwch am 35 munud am gig gwaedlyd neu 40-45 munud am gig wedi ei goginio’n ganolig. Gorchuddiwch â ffoil os yw’r toes yn dechrau llosgi. Tynnwch o’r ffwrn a’i adael i orffwys am 10 munud cyn ei sleisio a’i weini gyda’r saws.
 
