Yn llawn blas ond hefyd llysiau cudd ar gyfer y rheiny sy’n ffyslyd am eu bwyd!
- Cymysgwch y briwgig a’r llysiau mewn powlen ac ychwanegu’r perlysiau a’r pupur a halen.
- Ychwanegwch y sos coch a hanner yr wy gan gymysgu’n dda. Ychwanegwch ragor o’r wy os bydd angen – bydd angen cymysgedd meddal ond cadarn er mwyn sicrhau bod y byrgyrs yn dal eu siâp (os bydd yn rhy ludiog, ychwanegwch rywfaint o’r briwsion bara).
- Siapiwch y cyfan yn fyrgyrs a rhowch nhw i oeri am 15 munud.
- Gellir coginio’r rhain ar blât solet y barbeciw, y popty neu’r gridyll, a hynny am 15-20 munud, yn dibynnu ar eu trwch. Rhowch gaws ar eu pennau ychydig cyn eu codi o’r gwres. Sicrhewch eu bod wedi cael eu coginio’n drwyadl yn y canol.