- Cynheswch y popty ymlaen llaw i 180°C / 160°C ffan / Nwy 4. Rhowch halen a phupur ar yr asennau. Cynheswch badell ffrio ac ychwanegwch yr olew, yna ychwanegwch yr asennau a’u brownio ar bob ochr. Trosglwyddwch i dun rhostio neu ddysgl gaserol fawr (gallwch hefyd goginio’r rhain mewn coginiwr araf ar y gosodiad ‘isel’ am 6-8 awr).
- Yn yr un badell, ffriwch y garlleg, y nionod, y moron a’r seleri nes maent yn feddal ac wedi brownio’n ysgafn. Ychwanegwch y blawd a choginiwch am ychydig funudau, yna ychwanegwch y piwrî tomato. Ychwanegwch y gwin a’r stoc gan droi’r cyfan yn gyson nes mae’n berwi. Arllwyswch y llysiau a’r saws ar yr asennau, yna ychwanegwch y perlysiau, rhowch dro i’r cyfan a gorchuddiwch gyda chaead neu ffoil. Coginiwch am 3-3½ awr neu nes mae’r cig yn frau ac yn dod oddi ar yr asgwrn.
- Gwiriwch ansawdd y saws – os nad yw’n ddigon trwchus, tynnwch yr asennau ohono a’u cadw’n gynnes a berwch y saws er mwyn ei leihau a’i dewhau.
- Gweinwch gyda thatws melys wedi’u pobi a cholslo crensiog.
Asennau byrion Cig Eidion Cymru mewn gwin coch a pherlysiau
- Amser paratoi 25 mun
- Amser coginio 4 awr
- Ar gyfer 4
Bydd angen
- 8-12 o asennau byrion Cig Eidion Cymru PGI
- ½ llwy de o halen
- ½ llwy de o bupur du bras
- 2 lwy fwrdd o olew
- 2 nionyn mawr, wedi’u torri
- 2 foronen, wedi’u plicio a’u torri
- 2 ffon seleri, wedi’u torri
- 4 ewin garlleg, wedi’u gwasgu
- 2 lwy fwrdd o flawd
- 1 llwy fwrdd o biwrî tomato
- 375ml o win coch
- 375ml o stoc cig eidion
- Bwnsiad o sbrigau teim ffres
- 2 sbrigyn o rosmari ffres
- Dail llawryf