facebook-pixel

Llygad yr asen o Gig Eidion Cymru gyda nwdls a kecap manis gan Hywel Griffith

  • Amser paratoi 20 mun
  • Amser coginio 15 mun
  • Ar gyfer 2

Bydd angen

  • 2 x 200g stêc llygad yr asen Cig Eidion Cymru PGI, ar dymheredd yr ystafell
  • 50g nwdls Udon
  • 100g choy sum (neu pak choi)
  • 1 shibwnsyn banana mawr, wedi ei dorri
  • 30g sinsir, wedi ei dorri fân
  • 1 ewin garlleg mawr, wedi ei dorri fân
  • 20g coriander
  • 50g kecap manis
  • Pinsiad o halen ac ychydig o olew
  • Llond llaw o hadau sesame

Dull

  1. Coginio’r nwdls mewn dŵr hallt, berwedig am 5-6 munud
  2. Crino’r stêcs am 2-3 munud ar bob ochr mewn padell boeth iawn.
  3. Chwysu’r shibwns, garlleg a sinsir gan ddefnyddio ychydig o olew.
  4. Pan fo’r stêc wedi coginio, ei gorffwys mewn lle cynnes.
  5. Draenio’r nwdls ac ychwanegu’r shibwns yn ogystal ag ychydig o’r dŵr coginio.
  6. Gwywo’r choy sum ym mhadell y stêc, a’u coginio tua 70% fel bod y coesau dal yn galed.
  7. Gorchuddio’r stêc yn y kecap manis ac ychwanegu ychydig o halen, ei dychwelyd i’r badell am 20 eiliad er mwyn ei haildwymo ac amsugno’r saws.
  8. Gweini’r stêc ar ben y nwdls, ac ychwanegu’r coriander a’r hadau sesame.
Share This