- Cynheswch badell ffrio. Coginiwch y stecen am 2-3 munud ar bob ochr ar gyfer cig cymedrol/gwaedlyd.
- Rhowch y stecen o’r neilltu am 5 munud cyn ei sleisio’n denau yn groes i’r graen.
- I wneud y chimichurri, cymysgwch yr holl gynhwysion mewn prosesydd bwyd am ychydig funudau.
- Ychwanegwch yr olew a’r halen a’r pupur.
- Taenwch y saws dros y stecen cyn ei gweini.
Stecen sbawd frith (featherblade) Cig Eidion Cymru gyda chimichurri
- Amser paratoi 20 mun
- Amser coginio 8 mun
- Ar gyfer 2
Bydd angen
- 2 stecen sbawd frith Cig Eidion Cymru PGI, arwyneb wedi’i ricio ychydig
- ½ llwy de o naddion halen
- ½ llwy de o bupur du bras
- 1 llwy fwrdd o olew
Ar gyfer y chimichurri:
- 1 bwnsiad o bersli, dail gwastad
- 1 bwnsiad o goriander
- Nionyn coch bach, wedi’i dorri’n fan
- 4 llwy fwrdd o olew olewydd pur iawn –
- 2 lwy fwrdd o finegr gwin coch
- 4 ewin garlleg, wedi’u gwasgu
- ½ llwy de o naddion tsili
- ½ llwy de o cwmin
- ½ llwy de o halen môr
Gwybodaeth am faeth
- Ynni: 1531 KJ
- Calorïau: 366 kcals
- Braster: 23.5 g
- Sy’n dirlenwi: 5 g
- Halen: 1 g
- Haearn: 6.1 mg
- Sinc: 5.9 mg
- Protein: 36.4 g
- Ffeibr: 2 g
- Carbohydradau: 5.7 g
- Sy’n siwgro: 3.8 g