
20
Cooking Time
25
Prep Time
4
Serves
- Cynheswch y popty ymlaen llaw i 160°C / 140°C ffan / Nwy 3. I wneud y quinoa'n grimp, taenwch yn gyfartal dros bapur pobi ar hambwrdd pobi, a'i roi yn y popty am oddeutu 20-25 munud. Gadewch iddo oeri.
- Codwch dymheredd y popty i 200°C / 180°C ffan / Farc Nwy 6.
- Curwch yr ŵy a'r gwynwy a'i gilydd. Mewn powlen arall, cyfunwch y quinoa, yr halen a'r pupur, y perlysiau sych a'r caws parmesan.
- Rhowch y darnau cig eidion yn y blawd wedi'i sesno, yna yn y gymysgedd ŵy ac yna gorchuddiwch â'r gymysgedd quinoa. Rhowch nhw ar hambwrdd pobi anlynol, chwistrellwch yn ysgafn ag olew a phobwch am 15-20 munud nes maent yn grensiog.
- Gweinwch gyda dipiau. Aioli - mayonnaise gyda garlleg wedi'i wasgu a phupur du. Dip mayonnaise a rhuddygl poeth - 1 llwy fwrdd o ruddygl poeth hufennog, 2 lwy fwrdd o fayonnaise, 2 lwy fwrdd o crème fraîche a phersli wedi'i dorri.