
Ingredients
- 600g o Gig Oen Cymru PGI (coes, ysgwydd neu wddf), wedi’i ddeisio
- 1 llwy fwrdd o olew
- 1 nionyn, wedi’i sleisio
- 2 ffon seleri, wedi’u sleisio
- 4 ewin garlleg, wedi’u gwasgu
- 1 tsili coch, heb yr hadau ac wedi’i sleisio’n denau
- ½ modfedd o sinsir ffres, wedi’i dorri’n fan
- 3 llwy de o bowdwr garam masala
- 2 lwy de o bowdwr tyrmerig
- 1 llwy de o hadau ffenigl
- 400ml tun o laeth coconyt
- 2 lwy fwrdd o biwrî tomato
- 150ml o stoc llysiau neu gyw-iâr
- 1 daten felys, wedi’i deisio
- Halen a phupur
- 1 leim, croen a sudd
- Llond llaw o goriander ffres
- Gweinwch gyda reis
120
Cooking Time
20
Prep Time
5+
Serves
- Cynheswch yr olew mewn padell fawr yna ychwanegwch y cig oen a'i ffrio nes ei fod wedi brownio. Ychwanegwch y nionyn, y garlleg, y sinsir, y seleri a'r tsili a ffriwch am 2 funud.
- Ychwanegwch y sbeisys a throwch am ychydig funudau. Ychwanegwch y llaeth coconyt, y stoc, y piwrî tomato a'r halen a'r pupur. Pan fydd wedi berwi, gorchuddiwch gyda chaead a mudferwch am 90 munud. Ychwanegwch fwy o stoc os oes angen.
- Ychwanegwch y tatws melys a pharhewch i goginio am 30 munud neu nes mae'r tatws yn feddal.
- I orffen - ychwanegwch y croen a' sudd leim ac ysgeintiwch y coriander wedi'i dorri drosto.