
Cynhwysion
- 1.5–2 kg coes Cig Oen Cymreig, heb esgyrn yn ddelfrydol
- 3 thatws pobi mawr, wedi’u plicio a’u torri’n drwchus
- 150 ml o stoc cyw iâr
Ar gyfer y marinâd—cymysgwch y canlynol:
- 4 ewin garlleg, wedi’u gwasgu
- Sudd a zest un lemwn
- 2 lwy fwrdd o fêl
- 2 lwy fwrdd o fwstard
- 2 gangen o rosmari, dail wedi’u malu’n fân
- 5 llwy fwrdd o olew olewydd
- 1 llwy de o oregano
- Halen a phupur du
240
Amser coginio
150
Amser paratoi
5+
Yn gweini
Mae’r rysáit Groegaidd yma o goes Cig Oen Cymreig gyda lemwn a thatws yn hollol flasus. Mae’r sudd lemwn, garlleg ac olew olewydd yn toddi i mewn i’r cig wrth iddo rostio’n araf, ac mae’r tatws yn amsugno’r holl suddion euraid a blasus hynny.
- Cynheswch y popty i 170°C (ffan) a gwnewch y marinâd trwy gymysgu’r holl gynhwysion mewn powlen.
- Trowch y tatws mewn olew olewydd, oregano, halen a phupur mewn tun rhostio.
- Rhowch y goes cig oen ar ben y tatws, sesnwch yn dda gyda halen a phupur ac yna rhwbio’r marinâd dros y darn cyfan o gig.
- Arllwyswch y stoc i mewn i’r tun a gorchuddiwch yn dynn gyda dwy haen o ffoil.
- Coginiwch am 3.5 awr ar 160°C nes ei fod yn dendr.
- Tynnwch y ffoil, llowciwch y cig oen yn y suddion a chynyddu’r tymheredd i 220°C. Coginiwch am 30 munud arall i frownio’r top.
- Gadewch iddo orffwys cyn ei dorri er mwyn i’r suddion setlo — yna gweinwch.
