Mynd i'r cynnwys

Cytledi Groegaidd Cig Oen Cymru

Cynhwysion 

  • 8 cytled Cig Oen Cymru (2 i bob person)

Marinâd:

  • 2 lwy fwrdd o olew olewydd
  • Sudd ½ lemwn
  • 3 ewin garlleg, wedi’u gratio
  • 1 llwy de oregano sych
  • 1 llwy fwrdd o frigau rhosmari, wedi’u torri
  • 1 llwy fwrdd o deim ffres, wedi’i dorri
  • Sesnin

8
Amser coginio
80
Amser paratoi 
4
Yn gweini
  1. Mewn powlen fach, cymysgwch gynhwysion y marinâd gyda'u gilydd, arllwyswch i fag rhewgell fawr, ychwanegwch y cytledi a gwnewch yn siŵr eu bod i gyd wedi'u gorchuddio yn y marinâd.
  2. Oerwch am hyd at awr.
  3. Tynnwch o'r oergell 20 munud cyn coginio.
  4. Gellir ffrio'r cytledi mewn padell am 4 munud ar bob ochr neu eu rhoi o dan gril poeth am yr un amser.
  5. Gweinwch gyda salad Groegaidd a dip iogwrt mintys.

© Hybu Cig Cymru - Meat Promotion Wales 2025