
Cynhwysion
- 2 siancen Cig Oen Cymru
- 125g iogwrt naturiol braster llawn
- 1 llwy de o bowdr chili
- 1 llwy de o gwmin
- ½ llwy de o goriander
- ½ llwy de o dyrmerig
- ½ llwy de o halen
- ½ llwy de o bupur du
- 2 lwy fwrdd o olew
- 2 winwnsyn wedi’u sleisio’n fras
- 2 ffyn sinamon
- 6 pod cardamom
- 3 clof
- darn 4 cm o sinsir ffres, wedi’i gratio
- 4 ewin garlleg, wedi’u gratio
- ½ llwy de o naddion tsili sych
- 2 lwy fwrdd o biwrî tomato
- 1 llwy fwrdd o flawd
- 1 llwy de o dyrmerig
- 450ml o ddŵr
210
Amser coginio
10
Amser paratoi
2
Yn gweini
- Mewn powlen fawr, rhowch yr iogwrt, powdr tsili, cwmin, coriander, tyrmerig a sesnin a chymysgwch yn dda.
- Ychwanegwch y siancod a'u troi'n dda gan eu gorchuddio yn y cymysgedd iogwrt, gorchuddiwch a'u rhoi yn yr oergell am o leiaf 3 awr.
- Cynheswch y popty i 170°C, 150°C nwy ffan 3
- Cynheswch yr olew mewn padell ffrio. Tynnwch y siancod allan o'r cymysgedd iogwrt, gan adael llawer o'r iogwrt yn y bowlen. Ffriwch eich cig nes ei bod yn frown drosodd a'u rhoi mewn dysgl gaserol.
- Yn yr un badell ffrio, ychwanegwch y winwns, ffyn sinamon, podiau cardamon, clofau, garlleg, tsili a sinsir a'u ffrio'n ysgafn am ychydig funudau.
- Ychwanegwch y blawd, tyrmerig a phiwrî a'u cymysgu'n dda, yna ychwanegwch y dŵr, dewch ag ef i'r berw.
- Ychwanegwch weddill y cymysgedd iogwrt a'u cymysgu'n dda.
- Arllwyswch dros y cig oen, rhowch gaead neu ffoil ar y ddysgl a choginiwch yn araf am hyd at 3 awr nes bod y siancod yn dyner.
- Tynnwch y cig allan o'r ddysgl a'u cadw'n gynnes, tynnwch y codennau cardamon a'r ffyn sinamon ac yna defnyddiwch gymysgydd llaw i wneud saws llyfn.
- Dychwelwch y coesau i'r badell i sicrhau eu bod yn chwilboeth.
- Gweinwch gyda reis pilaf a thaenellwch hadau pomgranad, almonau wedi'u naddu a mintys wedi'u torri.