
Cynhwysion
- 450g o stêc ffolen Cig Eidion Cymreig heb lawer o fraster, wedi’i sleisio’n denau
- Olew
- 1 llwy fwrdd o hadau sesame wedi’u tostio
Ar gyfer y marinâd:
- 2 lwy fwrdd o saws soi halen isel
- 1 llwy de o siwgr brown
- 1 llwy de o flawd corn
- 1 llwy fwrdd o saws Gochujan neu Sriracha
- 1 llwy fwrdd o sinsir ffres wedi’i gratio
- 3 ewin garlleg, wedi’u malu
- 2 lwy fwrdd o olew sesame wedi’i dostio
Ar gyfer y saws:
- 100g o fenyn cnau daear lyfn neu Tahini
- 2 lwy fwrdd o Sriracha
- 2 lwy fwrdd o finegr reis
- 2 lwy fwrdd o saws soi halen isel
- Sudd 1 leim
Ar gyfer y bowlenni (Dewis o):
- 2 becyn o reis Basmati a reis grawn cyflawn wedi’u goginio
- 1 afocado wedi’i sleisio
- Kimchi
- 8 brigyn o frocoli coesyn tendr, wedi’u stemio neu eu grilio
- Slaw wedi’i wneud gyda bresych coch, moron, shibwns
- Coriander
- 2 wy wedi’u berwi, wedi’u coginio yn ôl eich hoffter
10
Amser coginio
30
Amser paratoi
4
Yn gweini
- Mewn powlen, ychwanegwch y blawd, saws soi, siwgr, sriracha, sinsir, garlleg ac olew sesame.
- Ychwanegwch y cig eidion a'i chymysgu'n dda.
- Gorchuddiwch a gadewch yn yr oergell am awr.
- Gwnewch y saws trwy gymysgu'r holl gynhwysion gyda'u gilydd, os yw'n rhy drwchus ychwanegwch ychydig o ddŵr.
- Paratowch y cynhwysion ar gyfer y powlenni.
- Coginiwch y cig eidion trwy gynhesu'r olew mewn padell ffrio, defnyddiwch lwy hollt i godi'r cig eidion allan o'r marinâd, ychwanegwch at y badell a ffriwch am 3-4 munud nes ei fod yn frown.
- Ychwanegwch ychydig o'r marinâd i orchuddio'r cig a ffriwch am funud arall nes ei bod wedi tewhau.
- Cydosodwch y powlenni gan ddechrau gyda sylfaen reis a'u gorchuddio â'r cynhwysion.
- Gorffennwch y powlenni gyda'r cig eidion crensiog a hanner wy ac arllwyswch y saws drosto.