
Ingredients
- 450g o stêcs coes Cig Oen Cymru, wedi’u torri’n stribedi tenau
- 1 llwy fwrdd o olew
- 1 llwy fwrdd o olew cnau coco
- 1 winwnsyn coch, wedi’i sleisio’n denau
- 3 ewin o arlleg, wedi’u malu
- 1-2 tsilis coch, wedi’u torri’n fân
- darn 4 cm o sinsir ffres, wedi’i sleisio
- 4 shibwn, wedi’u sleisio
- 2 foronen, wedi’u torri’n dafelli tenau
- Bwndel o frocoli coesyn tendr, wedi’i dorri
- 3 llwy fwrdd o bast cyri coch Thai
- 2 llwy de o biwrî tomato
- 1 llwy fwrdd o saws pysgod
- 1 llwy de o siwgr brown
- Tun 400ml o laeth cnau coco
- 300ml o stoc cyw iâr
- Bwndel mawr o sbigoglys bach
- 1 llwy de o flawd corn (dewisol)
20
Cooking Time
20
Prep Time
4
Serves
- Cynheswch yr olew mewn padell ffrio, ychwanegwch y stribedi oen a'u ffrio ar wres uchel nes eu bod yn frown.
- Tynnwch y cig o'r badell.
- Ychwanegwch yr olew cnau coco i'r badell a lleihau'r gwres i ffrio'r winwnsyn, y garlleg, y sinsir, y shibwns a'r tsili yn ysgafn. Ffriwch am 3 munud.
- Ychwanegwch y stribedi oen, y past cyri coch, y piwrî, y past pysgod a'r siwgr.
- Cymysgwch yn dda am 1 munud.
- Ychwanegwch y moron, y brocoli, y stoc a'r llaeth cnau coco a'u cymysgu'n dda.
- Coginiwch ar fudferw am 10 munud.
- Ychwanegwch y sbigoglys a'i gymysgu drwyddo.
- Taenellwch goriander drosto a gweinwch gyda reis o'ch dewis.