Beth yw PGI?

Mae Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig - neu PGI - yn ffordd o gydnabod ardal benodol sy'n cynhyrchu bwyd a diod o safon uchel. Mae hyn yn golygu bod Cig Oen Cymru PGI a Chig Eidion Cymru PGI yn wahanol ac mae ganddo nodweddion, blasau a gweadau arbennig sy'n unigryw i Gymru ac ni ellir eu hailadrodd mewn unrhyw le arall.
Darllen mwy

Yr hanes tu ôl i'r bwyd
Er mwyn gallu gwerthfawrogi’r cariad a'r angerdd sydd ynghlwm â chynhyrchu Cig Oen Cymru PGI a Chig Eidion Cymru PGI, fe aethom i ymweld â Katie Davies ar ei fferm thir uchel yn Nantymoel i ddysgu mwy am yr hyn y mae ffermio yn ei olygu iddi hi. Gobeithio y gwnewch chi fwynhau'r fideo gymaint ag y gwnaethom ni fwynhau cofnodi hanes Katie.
Arferion Ffermio

Mae ansawdd ein cig oen a chig eidion yn cael ei greu gan arferion ffermio da yn un o’r amgylcheddau ffermio gorau yn Ewrop.
Amgylchedd
Mae arfordir sy’n ymestyn am 1200km yn golygu bod tair ochr o Gymru yn cael awyr ffres o'r môr; mae tirlun gwyrdd â phorfa fras ar filltir ar ôl milltir o fryniau o’r môr i’r mynydd.

Olrheinedd

Mae safonau ansawdd, diogelwch bwyd ac olrheinedd Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru, sy'n cynnwys archwiliadau ym mhob cam o’r gadwyn gyflenwi, o’r safon uchaf.
Darganfod
Cig Oen Cymru
Mae Cig Oen Cymru yn ganlyniad i ddulliau amaeth traddodiadol sydd wedi eu pasio lawr trwy genedlaethau, a hefyd ellir dadlau, wedi ei greu ymhlith yr amodau magu cig oen gorau y byd - aer glan, glaswellt ffrwythlon a nentydd mynydd glân.
Cig Eidion Cymru
Yn orlawn gyda blas gwych a fitaminau a mwynau hanfodol, Cig Eidion Cymru yw'r bwyd delfrydol i'r rheini sy’n awchu i fyw bywyd iachus a gweithgar.