Coes Cig Oen gyfan wedi'i stwffio â cheirios a sinsir



Method

  1. Cynheswch y popty ymlaen llaw i farc nwy 4-5, 180ºC, 350ºF.
  2. Cynheswch yr olew a meddalwch y nionyn a'r garlleg yn ysgafn. Rhowch nhw mewn powlen a gadael iddynt oeri ychydig. Ychwanegwch friwsion y deisen sinsir a'r ceirios a'u cymysgu'n dda. Gwasgwch â'i gilydd gyda'ch dwylo i greu siâp selsig mawr.
  3. Rhowch y cig oen ar fwrdd a'i 'agor' er mwyn creu lle ar gyfer y stwffin. Rhowch y stwffin ar y cig ac yna lapiwch y cig o'i amgylch. Clymwch â llinyn mewn sawl lle.
  4. Pwyswch y cig a chyfrifwch yr amser coginio: Cymedrol – 25 munud fesul 450g/½kg (1lb) a 25 munud ychwanegol Wedi'i goginio'n dda – 30 munud fesul 450g/½kg (1lb) a 30 munud ychwanegol

Recipe Information

Serves 6
Calories 588 kcals
Cooking Time

Bydd Angen

  • 1 goes o Gig Oen Cymru heb yr asgwrn
  • 15ml (1 llwy fwrdd) o olew
  • 1 nionyn, wedi'i dorri
  • 1 ewin garlleg, wedi'i falu
  • 100g (4oz) o deisen sinsir, wedi'i briwsioni
  • 75g (3oz) o geirios sych
  • Olew olewydd
  • Pupur a halen

Ceirios, afalau a bresych mewn menyn:

  • 15ml (1 llwy fwrdd) o olew
  • 10g (½oz) o fenyn
  • 1 nionyn, wedi'i sleisio'n denau
  • 200g (7oz) o fresych crychion, wedi'u rhwygo
  • 1 afal, heb y craidd ac wedi'i sleisio
  • Pupur a halen
  • 75g (3oz) o geirios ffres, heb y cerrig

Gwybodaeth am faeth

  • Calories 588 kcal
  • Energy 2445kJ
  • Fat 38g
  • Saturates 13.5g
  • Salt 1.5g
  • Iron 3.7g
  • 5-a-day 1.5