Stecen syrlwyn gyda menyn persli a rhuddygl poeth



Method

  1. Mae’n hawdd paratoi’r menyn blasus. Rhowch y menyn wedi’i feddalu fymryn, y rhuddygl poeth a’r persli mewn powlen fach a’u cymysgu – hawdd!
  2. Twymwch y gridyll ymlaen llaw a choginiwch y stêcs fel a ganlyn: stêc gwaedlyd – dwy funud bob ochr, stêc cymedrol – pedwar munud bob ochr, stêc trylwyr – chwe munud bob ochr.
  3. Yna, rhowch y stêcs o’r neilltu am ychydig funudau. Haws dweud na gwneud!
  4. Yna, rhowch ddarn o fenyn ar ben y stêcs a’i weld yn toddi’n araf drosto – am olygfa braf.
  5. Gweinwch gyda thafellau o datws rhost a brocoli, cyn taenu unrhyw fenyn dros ben ar y llysiau. Bendigedig!

Recipe Information

Serves 2
Calories 257 kcals
Cooking Time

Bydd Angen

Amser coginio

  • Gwaedlyd – 2 funud bob ochr
  • Cymedrol – 4 munud bob ochr
  • Trylwyr – 6 munud bob ochr
  • 2 stêc syrlwyn Cig Eidion Cymru
  • 25g (1 owns) o fenyn
  • 10ml (2 lwy de) o saws rhuddygl poeth hufennog
  • 30g (2 lwy fwrdd) o ddail persli fflat wedi’u torri’n fân

Gwybodaeth am faeth

  • Calorïau 257 kcal
  • Egni 1072KJ
  • Braster 16g
  • Braster Dirlawn 8.8g
  • Halen 0.6g
  • Haearn 1.9g
  • 5-y-dydd 0