Parseli Tikka Cig Oen Cymru



Method

  1. Cynheswch yr olew mewn padell sydd ddim yn glynu neu wok. Ychwanegwch y stribedi oen, y planhigyn wŷ, yr winwnsyn a'r madarch a thro ffriwch nhw nes bod y cig yn frown. Dylai hyn gymryd tua 6 munud.
  2. Ychwanegwch y pâst cyrri a'r siytni mango, trowch a choginiwch am 2 funud arall.
  3. Ychwanegwch y tomato a'r coriander.
  4. Rhowch y gymysgedd ynghanol y parseli. Roliwch a mwynhewch!

Recipe Information

Serves 2
Calories 406 kcals
Cooking Time

Bydd Angen

  • 225g (8oz) stêc coes cig oen Cymru wedi ei thorri'n dafelli tenau iawn
  • 5ml (1llwy de) olew
  • ½ planhigyn wŷ (aubergine), wedi ei dorri'n dafelli tenau
  • 1 winwnsyn, wedi ei dorri'n dafelli tenau
  • 3 madarch, wedi eu tafellu
  • 15ml (1 llwy fwrdd) pâst cyrri ysgafn
  • 15ml (1 llwy fwrdd) siytni mango
  • 1 tomato, wedi ei thafellu'n denau
  • Dyrnaid o ddail coriander ffres, wedi eu malu
  • 2 barsel tortilla blawd

Gwybodaeth am faeth

  • Calorïau 406 kcal
  • Egni 1704 kj
  • Braster 14.8g
  • Braster Dirlawn 4.3 g
  • Halen 1.44g
  • Haearn 5.21mg
  • 5-y-dydd 2