Stêcs Cig Oen Cymru gyda Saws Gellyg a Rhosmari a Gwenith Bulgar Gellyg Sbeislyd



Method

  1. Twymwch radell neu badell ffrio fawr ymlaen llaw.
  2. Rhowch halen a phupur ar y stêcs a'u rhoi yn y badell gyda'r rhosmari a'u coginio am: 4 - 6 munud bob ochr wedi'u gwneud yn gymhedrol.
  3. Tynnwch y stêcs o'r badell - cadwch nhw'n gynnes ac ychwanegwch y seidr gellyg, berwch i wneud saws tenau hawdd ei arllwys - os yw'n tewychu'n rhy gyflym ychwanegwch ychydig mwy o seidr.
  4. Rhowch y gwenith mewn sosban fach, ychwanegwch y seidr, y dŵr berwedig, y gellyg a'r sbeis cymysg.
  5. Dewch â'r cyfani'r berw ac yna tynnwch o'r gwres - gadewch am tua 30 munud nes bod yr hylif wedi amsugno a'r gwenith yn frau.
  6. Gweinwch y stecen gyda'r saws drosto, y gwenith sbeislyd a salad hydrefol.

Recipe Information

Serves 2
Calories 424 kcals
Cooking Time

Bydd Angen

  • 2 Stêc coes oen
  • 2 Sbrigyn rhosmari ffres
  • 60ml (4 llwy fwrdd) Seidr gellyg
  • 100g (4 oz) Gwenith bulgar
  • 150ml (¼ pt) Seidr gellyg
  • 300ml (½ pt) Dŵr berwedig
  • 1 Gellygen aeddfed, wedi tynnu'r canol a'i thafellu
  • Pinsiad sbeis cymysg

Gwybodaeth am faeth

  • Calorïau 424 kcal
  • Egni 1774kj
  • Braster 10.1g
  • Braster Dirlawn 0.24g
  • Halen 0.24g
  • Haearn 5.11mg
  • 5-y-dydd