Stêcs Cig Oen Cymru gyda Chaws Gafr



Method

  1. Coginiwch y stêcs coes cig oen ar farbeciw neu gril wedi'i gynhesu ymlaen llaw am ryw 12 munud gan ddibynnu ar ba mor drwchus yw'r stêcs a sut rydych yn hoffi eu coginio. Brwsiwch y puprau ag ychydig o olew a'u gosod wrth ymyl y stêcs. Gadewch iddynt goginio nes maent yn meddalu ychydig ac yn dechrau golosgi. Cymerwch y caws gafr a'i rolio mewn puprennau. Torrwch dafell drwchus a'i roi ar stêc boeth a gadael iddo doddi ychydig.
  2. Gweinwch gyda phupur wedi'i grilio, salad gwyrdd ac olifau. Fel arall, gallech ddefnyddio caws gafr Cymreig gyda garlleg a chennin syfi.

Recipe Information

Serves 2
Calories 348 kcals
Cooking Time

Bydd Angen

  • 2 stêc coes Cig Oen Cymru goch
  • 50g (2ozs) o gaws gafr
  • 5ml (1 lwy fwrdd) o buprennau du, wedi'u malu
  • 1 pupur coch, heb yr hadau ac wedi'i chwarteru
  • 1 pupur oren, heb yr hadau ac wedi'i chwarteru
  • 15ml (1 llwy fwrdd) o olew olewydd

Gwybodaeth am faeth

  • Calorïau 424 kcal
  • Egni 1774kj
  • Braster 10.1g
  • Braster Dirlawn 0.24g
  • Halen 0.24g
  • Haearn 5.11mg
  • 5-y-dydd