Stecen Cig Oen Cymru gyda croustini ffa, berwr a chaws gafr



Method

  1. Rhowch y stêcs coes oen ar blât gridyll sydd wedi'i gynhesu'n barod. Coginiwch am 6-8 munud yn dibynnu ar drwch y stêcs a sut rydych yn eu hoffi.
  2. Cymysgwch y ffa, y berwr a'r halen a phupur mewn prosesydd bwyd neu gyda chymysgydd llaw nes bo'n weddol llyfn. Ychwanegwch y caws gafr a'r olew a'i gymysgu'n sydyn.
  3. Taenwch hwn ar ciabatta sydd wedi'i dostio'n ysgafn a'i osod o dan y gril i'w gynhesu.
  4. Rhowch y tafellau stêc ar ben y cymysgedd ffa. Gweinwch gyda sudd leim.
  5. Gweinwch naill ai fel canapé, cwrs cyntaf, byrbryd neu brif gwrs.

Recipe Information

Serves 4
Calories 634 kcals
Cooking Time

Bydd Angen

  • 4 stecen coes goch o gig oen Cymru, wedi'u tafellu
  • 225g (8oz) o ffa wedi rhewi a'u dadmer (piliwch y croen allanol os oes amser gennych), (byddai pys yn gweithio hefyd yn eu lle)
  • Llond llaw o ferwr
  • Halen a phupur
  • 50g (2oz) o gaws gafr Cymreig
  • 30ml (2 lwy fwrdd) o olew olewydd
  • 1 ciabatta, wedi'i dorri'n dafellau trwchus
  • Leimiau

Gwybodaeth am faeth

  • Calorïau 634 kcal
  • Egni 2667kj
  • Braster 22.8g
  • Braster Dirlawn 7.7g
  • Halen 2.50g
  • Haearn 4.25mg
  • 5-y-dydd