Tarten Cig Oen Cymru, sbinaets a feta



Method

  1. Twymwch y popty i Farc Nwy 6, 200˚C, 400˚F.
  2. Ysgeintiwch ychydig o flawd ar fwrdd, a rholiwch y crwst arno i faint hirsgwar 20 x 30cm.
  3. Gyda chyllell, gwnewch farc ysgafn tua 2mm o’r ochrau, a rhowch y crwst ar glawr pobi mawr.
  4. Yna, taenwch y past tomato neu besto ar hyd y crwst gyda haen o sbinaets ac yna’r sleisys o courgette, y briwgig, y caws feta a’r pupur a halen, gan adael ymyl o 2cm yn wag.
  5. Rhowch y darten yn y popty am 30-35 munud – tan fod y llenwad wedi coginio a’r crwst yn euraidd.
  6. Gweinwch gyda salad a thatws newydd.

Recipe Information

Serves 4
Calories 636 kcals
Cooking Time

Bydd Angen

  • 225g (8 owns) o friwgig Cig Oen Cymru isel mewn braster, wedi’i dorri’n fân
  • Paced 500g (18 owns) o grwst pwff
  • 15ml (1 llwy fwrdd) o bast tomatos wedi’u sychu yn yr haul, neu besto coch
  • 2 lond llaw fawr o sbinaets wedi’u golchi
  • 1 courgette, wedi’i sleisio’n denau iawn
  • 100g (4 owns) o gaws feta, wedi’i falu
  • Pupur a halen

Gwybodaeth am faeth

  • Calorïau 636 kcal
  • Egni 2655
  • Braster 39.2g
  • Braster Dirlawn 17.5g
  • Halen 2.7g
  • Haearn 2.75mg
  • 5-y-dydd 1