Ysgwydd Oen Cymru wedi’i stwffio gyda thomatos, basil a lemwn



Method

  1. Twymwch y popty i Farc Nwy 4-5, 180°C, 350°F Os oes llinyn yn y cig, tynnwch ef allan, agorwch y darn cig a'i roi i orwedd yn fflat ar ford gydag ochr y braster i lawr.
  2. Rhowch 1 lletem lemwn, llond llaw o ddail basil a'r tomatos sych ar y cig.
  3. Plygwch a rholiwch y cig oen a'i glymu gyda llinyn neu defnyddiwch fandiau cigydd.
  4. Pwyswch y cig a gweithiwch allan am faint o amser i'w goginio. 25 munud i bob 450g/½kg (1lb) a 25 munud yn ychwanegol. Rhowch y cig mewn tun rhostio a rhoi halen a phupur arno.
  5. Rhowch y tatws o'i amgylch a rhoi'r olew tomato dros y cig gyda llwy.
  6. Tra bo'n coginio, codwch yr hylif dros y cig a throi'r tatws.
  7. Yn ystod 30 munud olaf yr amser coginio, trowch yr hylif ac ychwanegwch y tomatos sychion sydd ar ôl.
  8. Gweinwch haenau trwchus o'r cig gyda lletemau lemwn i'w haddurno a thatws rhôst.

Recipe Information

Serves 4
Calories 606 kcals
Cooking Time

Bydd Angen

  • 1kg (2.2lb) ysgwydd oen Cymru wedi tynnu'r asgwrn
  • 1 lemwn wedi'i dorri'n lletemau
  • Llond llaw o ddail basil ffres
  • 50g (2oz) tomatos heulsych a
  • 30ml (2 llwy fwrdd) o olew o'r jar + 4 tomato ychwanegol
  • Halen a phupur
  • 450g (1lb) o datws newydd, wedi'u torri'n hanner

Gwybodaeth am faeth

  • Calorïau 606 kcal
  • Egni 2529kj
  • Braster 35.2 g
  • Braster Dirlawn 2.2 g
  • Halen 1.04g
  • Haearn 1.02mg
  • 5-y-dydd