Ysgwydd Oen Cymru stwffio gyda Chig Oen



Method

  1. Twymwch y popty i Farc Nwy 4-5, 180°C, 350°F
  2. Cymerwch ysgwydd oen heb yr asgwrn sydd wedi'i rholio. Tynnwch y llinyn ac agorwch y cig yn fflat.
  3. Gwnewch y Stwffin: Cymysgwch holl gynhwysion y stwffin gyda'i gilydd a'u rhoi, mewn siâp selsig, ynghanol y cig gyda'r cennin a'r rhosmari. Rholiwch y cig a'i ddal gyda llinyn. (Os oes stwffin dros ben, rholiwch e'n beli a choginio'r rhain o gwmpas y cig - ychwanegwch y rhain at y cig 20-30 munud cyn iddo orffen coginio).
  4. Pwyswch y cig pan fydd wedi'i stwffio a gweithiwch allan am faint o amser y bydd angen ei goginio. 25 munud i bob 450g/½kg a 25 munud arall. Gosodwch y cig ar resel mewn tun rhostio a'i rostio'n agored am yr amser gofynnol mewn popty sydd wedi'i dwymo'n barod.
  5. Gweinwch gyda chennin wedi'u stemio, tatws newydd rhost a jeli mintys.

Recipe Information

Serves 4
Calories 368 kcals
Cooking Time

Bydd Angen

  • 1kg (2.2pwys) Ysgwydd oen o Gymru, wedi trimio'r braster a thynnu'r asgwrn a'i rholio
  • 225g (8owns) o friwgig oen coch Cymru

Ar gyfer y stwffin:

  • 100g (4owns o friwsion bara ffres
  • 30ml (2 lwy fwrdd) o bersli ffres, wedi'i dorri'n fras
  • 3 sbrigyn mawr o rhosmari ffres, wedi'u torri'n fras
  • 1 lemwn, y croen wedi'i gratio
  • 30ml (2 lwy fwrdd) o jeli mintys
  • 3 cenhinen fechan, wedi'u torri yn eu hanner ar eu hyd neu 1 genhinen fawr, wedi'i thorri'n chwarteri ar ei hyd

Gwybodaeth am faeth

  • Calorïau 368 kcal
  • Egni 1546Kj
  • Braster 14.4g
  • Braster Dirlawn 5.9g
  • Halen 0.65g
  • Haearn 4.27mg
  • 5-y-dydd