Risotto Cig Oen Cymru, Berwr a Parmesan



Method

  1. Cynheswch yr olew olewydd mewn sosban a choginiwch yr winwns a'r ciwbiau cig oen coch.
  2. Ychwanegwch y reis risotto a throwch yn dda.
  3. Ychwanegwch yr isgell, a dewch a'r cyfan i'r berw, ychwanegwch halen a phupur a'i fudferwi am tua 30 munud neu nes bod y reis wedi coginio a'r hylif i gyd wedi ei amsugno. (Gallwch ychwanegu ychydig mwy o isgell i gael y trwch y dymunwch).
  4. Yn ystod 5 munud ola'r amser coginio, ychwanegwch y pys sugar snap a'r pys rhew, cymysgwch gyda'i gilydd a choginio nes bod y sugar snaps yn dechrau meddalu.
  5. Rhowch fwy o halen a phupur a gweinwch gyda dyrnaid o ferwr a chaws Parmesan wedi gratio.

Recipe Information

Serves 2
Calories 584 kcals
Cooking Time

Bydd Angen

  • 225g (8 owns) stecs coes Cig Oen Cymru, wedi eu torri'n giwbiau bach
  • 5ml (1llwy de) olew olewydd
  • 1 winwnsyn, wedi ei dorri'n fan
  • 150g (5 owns) reis risotto (Arborio)
  • 600ml (1 peint) isgell
  • Pupur du
  • 50g (2 owns) pys sugar snap
  • 50g (2 owns) pys rhew
  • Dail berwr
  • Caws Parmesan

Gwybodaeth am faeth

  • Calorïau 584 kcal
  • Egni 2458kJ
  • Braster 20g
  • Braster Dirlawn 6.5g
  • Halen 1.6g
  • Haearn 3g
  • 5-y-dydd 1.5