Patis Cig Oen Cymru



Method

  1. Rhowch y mins/briwgig mewn padell ffrio a'i goginio dros wres uchel nes ei fod wedi brownio, tua 6 munud.
  2. Ychwanegwch y cennin a'r winwns a'u coginio am 4 munud arall.
  3. Tynnwch y badell ffrio oddi ar y gwres a gadael i'r cymysgedd oeri.
  4. Rhowch y tatws stwnsh mewn dysgl fawr a chymysgu'r india corn, y perlysiau, y jeli mint a'r pupur i mewn iddynt. Ychwanegwch y cymysgedd mins briwgig a'r blawd. Cymysgwch y cyfan ac ychwanegu'r wŷ yn raddol. Efallai nafydd angen yr wˆ y cyfan arnoch gan fod angen i'r cymysgedd fod yn ddigon sych i'w siapio.
  5. Rhowch ychydig o flawd ar y bwrdd gweithio ac ar eich dwylo. Rhannwch y cymysgedd yn 8 a'i lunio'n siapiau patis (fel teisennau pysgod).
  6. I goginio, cynheswch yr olew mewn padell ffrio a choginio'r patis yn ofalus. Trowch nhw unwaith a'u coginio nes bod y ddwy ochr yn frown a'r tu mewn yn boeth iawn

Recipe Information

Serves 4
Calories 400 kcals
Cooking Time

Bydd Angen

  • 1kg o datws, wedi'u pilio, eu torri'n ddarnau, eu berwi a'u stwnsho (gadewch iddynt oeri'n llwyr), neu gallwch ddefnyddio sbarion tatws stwnsh a fu yn yr oergell dros nos.
  • 300g mins/briwgig coch cig oen Cymru
  • 1 cenhinen, wedi'i thorri'n ddarnau bach
  • 1 winwnsyn, wedi'i bilio a'i dorri'n ddarnau bach
  • 1 tun bach o india corn, wedi'i ddraenio
  • 15ml jeli mint
  • 15ml mint ffres, wedi'i dorri'n fân neu
  • 5ml mint sych
  • 2.5ml pupur du wedi'i falu
  • 25g blawd plaen, ac ychydig mwy i siapio'r patis
  • 1 wŷ bach, wedi'i guro'n ysgafn
  • 15ml olew i'w ffrio

Gwybodaeth am faeth

  • Calorïau 400 kcal
  • Egni 1684kJ
  • Braster 11.3g
  • Braster Dirlawn 3.4g
  • Halen 1.4g
  • Haearn 3.56mg
  • 5-y-dydd 1