Strwdel Cig Oen Cymru ac Afal



Method

  1. Cynheswch y popty ymlaen llaw i farc nwy 5, 190ºC, 375ºF.
  2. Rhowch y briwgig cig oen mewn padell oer. Gwresogwch a'i 'ffrio'n sych' yn ei hylif ei hun nes mae wedi brownio.
  3. Rhowch y briwgig wedi coginio mewn hidlwr a gadael iddo ddraenio. Rhowch y briwgig mewn powlen fawr ac ychwanegwch y croen lemwn, y rhosmari, yr afal, y briwsion bara a'r syltanas. Cymysgwch y cyfan yn dda.
  4. Rhowch 3 haenen o grwst filo ar fwrdd, brwsiwch yr ymylon â menyn wedi toddi. Rhowch hanner y gymysgedd ar y crwst a'i daenu'n gyfartal - gan adael rhyw 1-2cm yn glir oddi wrth yr ymyl.
  5. 'Rholiwch' o'r ochr hiraf fel byddech yn ei wneud gyda Swis-rôl a'i roi ar astell bobi â phapur gwrthsaim arni. Brwsiwch fenyn wedi toddi dros y cyfan ac ailadrodd y broses gyda'r cynhwysion sydd ar ôl.
  6. Pobwch yn y popty am 20-25 munud nes mae'n grimp ac yn euraidd.
  7. Gweinwch mewn tafellau trwchus yn boeth neu'n oer.

Recipe Information

Serves 6
Calories 145 kcals
Cooking Time

Bydd Angen

  • 225g (8oz) o friwgig Cig Oen Cymru coch
  • ½ lemwn, heb y croen
  • 1 sbrigyn bach o rosmari, wedi'i dorri
  • 1 afal bwyta, heb y craidd ac wedi'i dorri
  • 25g (1oz) o friwsion bara
  • 25g (1oz) o syltanas
  • 25g (1oz) o fenyn wedi toddi
  • 6 haenen o grwst filo

Gwybodaeth am faeth

  • Calories 145 kcal
  • Energy 607kJ
  • Fat 8g
  • Saturates 4.0g
  • Salt 0.2g
  • Iron 0.8g
  • 5-a-day 0