Stêcs Coes Cig Oen Cymru gyda phuprennau pinc a gwyrdd wedi’u gweini â menyn clementinau a sinsir



Method

  1. Rhowch y stêcs Cig Oen Cymru mewn dysgl fas. Ychwanegwch y puprennau a’r olew. Cymysgwch y stêcs yn drylwyr yn y gymysgedd fel eu bod wedi gorchuddio’n llwyr. Gadewch y blasau i drwytho am hyd at 20 munud.
  2. Twymwch badell ffrio neu badell gridyll ymlaen llaw. Rhowch halen a phupur ar y stêcs a’u coginio am 4-5 munud bob ochr, neu nes eu bod wedi brownio.
  3. Rhowch y stêcs o’r neilltu am ychydig funudau.
  4. Cymysgwch y garlleg, y croen clementin, y sinsir, y lemonwellt a’r menyn gyda’i gilydd mewn powlen fechan yna oeri’r gymysgedd ychydig yn yr oergell.
  5. Gweinwch y stêcs ar lysiau tymhorol crensiog gwyrdd wedi’u tro-ffio. Rhowch lwyaid o fenyn ar ben y stêcs a’i adael i doddi.

Recipe Information

Serves 4
Calories 278 kcals
Cooking Time

Bydd Angen

  • 4 stecen coes Cig Oen Cymru heb lawer o fraster
  • 5ml (1 llwy de) o buprennau pinc a gwyrdd, wedi’u malu
  • 5ml (1 llwy de) o olew olewydd
  • Halen a phupur

Menyn clementinau a sinsir:

  • 1 ewin garlleg, wedi’i falu
  • Croen 2 clementin
  • 1.5cm (½") o wreiddyn sinsir, wedi’i blicio a’i dorri
  • Darn 5cm (2") o lemonwellt, wedi’i wasgu a’i dorri’n fân
  • 50g (2 owns) o fenyn wedi’i feddalu

Gwybodaeth am faeth

  • Calorïau 278 kcal
  • Egni 1156KJ
  • Braster 21g
  • Braster Dirlawn 10.6g
  • Halen 0.9g
  • Haearn 1.7g
  • 5-y-dydd 0