Cebabau Cig Oen Cymru gyda phinafal, soi a chilli, wedi'u gweini gyda salad nwdls a llysiau'r gwanwyn



Method

  1. Cymerwch y stêcs coch o goes neu ffolen oen a'u torri'n giwbiau bychan. Gwthiwch sgiwerau pren hir drwy 2-3 darn o gig a winwns (y sgiwerau wedi'u mwydo mewn dwr o flaen llaw fel na fyddent yn llosgi).
  2. Gwnewch y Sglein: Cymysgwch yr holl gynhwysion ar gyfer y sglein mewn sosban fechan. Dewch â'r cymysgedd i'r berw a'i fudferwi heb gaead am 5 munud. Brwsiwch ddigonedd o sglein dros y cebabau.
  3. Rhowch y sgiwerau o dan ridyll sydd wedi'i dwymo'n barod a'u coginio am 8-10 munud. Rhowch fwy o'r sglein ar y cebabau.
  4. Berwch unrhyw sglein sydd ar ôl yn drwyadl a'i weini wedi'i daenu dros y cebabau. Gweinwch gyda salad nwdls a llysiau'r gwanwyn (pys, pys melys, asbaragws)
  5. (Gallwch dorri pinafal ffres yn giwbiau a'u grilio hefyd - mae'n flasus tu hwnt!)

Recipe Information

Serves 2
Calories 301 kcals
Cooking Time

Bydd Angen

  • 225g (8oz) o stêcs ffolen neu goes oen Cymru
  • 1 winwnsyn coch, wedi'i dorri'n ddarnau bach

Ar gyfer y sglein:

  • 90ml (6 llwy fwrdd) o sudd pinafal
  • 45ml (3 llwy fwrdd) o jam bricyll neu binafal
  • 1 chilli coch, wedi tynnu'r hadau a'i dorri'n fân
  • 15ml (1llwy fwrdd) o saws soi

Gwybodaeth am faeth

  • Calorïau 301 kcal
  • Egni 1267kj
  • Braster 9.2 g
  • Braster Dirlawn 3.9g
  • Halen 0.25g
  • Haearn 2.23mg
  • 5-y-dydd 1