Korma Cig Oen Cymru gyda chilli gwyrdd



Method

  1. Mewn sosban fawr twymwch yr olew a browniwch y ciwbiau cig oen.
  2. Ychwanegwch y winwns a'r chilli a'u coginio'n ysgafn.
  3. Ychwanegwch y powdr cyri a pharhau i'w goginio gan orchuddio'r cynhwysion i gyd sydd yn y sosban.
  4. Ychwanegwch y llaeth cnau coco a'i gynhesu nes iddo ddechrau berwi.
  5. Rhowch gaead ar y sosban a'i fudferwi am 1 awr.
  6. Tynnwch y caead am 30 munud pellach i adael i'r saws anweddu a chreu saws hufennog cyfoethog
  7. Ychwanegwch y sibols a'r sbigoglys, troi'r saws a'i weini.
  8. Taenwch gneuen coco drosto a'i weini gyda reis basmati wedi'i ferwi.

Recipe Information

Serves 4
Calories 499 kcals
Cooking Time

Bydd Angen

  • 675g (1½lb) ciwbiau coch o ysgwydd oen Cymru
  • 15ml (1 llwy fwrdd) olew llysiau
  • 1 winwnsyn, wedi'i bilio a'i dorri'n fach
  • 1 chilli gwyrdd, wedi tynnu'r hadau a'i dorri'n fân
  • 30ml (2 llwy fwrdd) mild korma curry powder
  • 400ml powdr cyri korma ysgafn
  • 3 sibolsyn, wedi'u sleisio'n fân
  • Llond llaw fawr o sbigoglys ifanc
  • 30ml (2llwy fwrdd) o gnau almwn wedi tostio neu siafins cnau coco

Gwybodaeth am faeth

  • Calorïau 499 kcal
  • Egni 2077KJ
  • Braster 35.0g
  • Braster Dirlawn 16.3 g
  • Halen 0.46g
  • Haearn 6.18mg
  • 5-y-dydd