Cytledi Cig Oen Cymru gyda menyn leim a sinsir



Method

  1. Coginiwch y cytledi oen o dan gril wedi ei gynhesu'n barod neu ar farbeciw poeth am 8-12 munud.
  2. Yn y cyfamser gwnewch y menyn. Cymysgwch y menyn wedi ei feddalu gyda chroen a sudd y leim, a'r coesyn sinsir wedi ei dorri'n fân. Rhowch lwyaid o'r menyn ar y cytledi oen a gadewch iddynt oeri ychydig cyn eu gweini.
  3. Gweinwch gyda salad tatws newydd a llysiau tymhorol.

Recipe Information

Serves 2
Calories 846 kcals
Cooking Time

Bydd Angen

  • 4 cytled neu olwyth lwyn Cig Oen Cymru coch
  • 50g (2 owns) menyn wedi ei feddalu
  • ½ leim, y sudd a'r croen wedi ei gratio
  • 15ml (1 llwy fwrdd) coesyn sinsir mewn surop, wedi ei dorri'n fân

Gwybodaeth am faeth

  • Calorïau 846 kcal
  • Egni 3501kj
  • Braster 76.4 g
  • Braster Dirlawn 40.2g
  • Halen 0.70g
  • Haearn 2.05mg
  • 5-y-dydd