Tagine Cytledi o Cig Oen Cymru



Method

  1. Mewn sosban fawr a all wrthsefyll gwres ffwrn, ychwanegwch yr olew a chynheswch. Ychwanegwch y winwnsyn a'r garlleg am funud neu ddwy.
  2. Ychwanegwch y cytledi a'u brownio ar bob ochr. Ychwanegwch y sbeis, y ffigys, y bricyll, hanner y stoc, a halen a phupur − gorchuddiwch â chaead a mudferwch am tua 8-10 munud.
  3. Codwch y caead ac ychwanegwch y ffacbys a'r cwscws, a choginiwch am 8-10 munud arall nes bod y cwscws yn barod.
  4. Gweinwch gan ychwanegu'r bricyll a'r persli wedi'u torri a sudd a chroen lemwn.

Recipe Information

Serves 4
Calories 860 kcals
Cooking Time

Bydd Angen

  • 8-12 Cytled o Gig Oen Cymru
  • 15ml (1 llwy fwrdd) O olew
  • 1 Winwnsyn coch, wedi'i dorri'n fras
  • 2 Ewin garlleg, wedi'u malu
  • 15ml (1 llwy fwrdd) O gymysgedd sbeis Ras-el-hanout
  • 75g (3 owns) O ffigys sych, wedi'u torri'n fras
  • 50g (2 owns) O fricyll sych, wedi'u haneru
  • 450ml (¾ pt) O stoc cig oen
  • Halen a phupur
  • 400g (neu faint tebyg) O ffacbys tun, wedi'u draenio a'u golchi
  • 100g (4 owns) Cwscws
  • Bricyll sych, wedi'u torri i weini
  • Persli ffres, wedi'i dorri'n fras i weini
  • Sudd a chroen 1 lemwn

Gwybodaeth am faeth

  • Calorïau 860 kcal
  • Egni 3580KJ
  • Braster 61g
  • Braster Dirlawn 27.3g
  • Halen 1.8g
  • Haearn 6.3g
  • 5-y-dydd 1.5