Cyri Cig Oen Cymru gyda Phlanhigyn Wy a Ffigys



Method

  1. Cynheswch y ffwrn ymlaen llaw i Farc Nwy 4, 180°C, 350°F.
  2. Cynheswch yr olew mewn pot caserol neu sosban fawr a all wrthsefyll gwres y ffwrn. Ychwanegwch y ciwbiau cig oen a'u brownio ar bob ochr. Ychwanegwch y winwnsyn a'r garlleg gan barhau i'w coginio am funud neu ddwy. Ychwanegwch y garam masala nes ei fod yn gorchuddio'r holl gynhwysion.
  3. Ychwanegwch weddill y cynhwysion, dewch â'r cymysgedd i'r berw a rhowch gaead neu ffoil drosto. Coginiwch mewn ffwrn sydd wedi'i chynhesu ymlaen llaw am 1½-2 awr nes bod y cig yn frau a'r saws wedi tewychu.
  4. Gwnewch y salsa: Cymysgwch yr holl gynhwysion mewn powlen fach. Gweinwch y cyri gyda'r salsa coriander a chapatis wedi'u rholio.

Recipe Information

Serves 4
Calories 419 kcals
Cooking Time

Bydd Angen

  • 675g (pwys a hanner) O giwbiau ysgwydd cig oen Cymru heb lawer o fraster
  • 15ml (1 llwy fwrdd) O olew
  • 1 Winwnsyn, wedi'i dorri'n fras
  • 2 Ewin garlleg, wedi'u malu
  • 30ml (2 lwy fwrdd) O garam masala
  • 450ml (¾ pt) O stoc cig oen
  • 5ml (1 llwy de) O sinamon
  • 1 Planhigyn wy, wedi'i dorri'n ddarnau bach
  • 6 Ffigysen sych, wedi'u torri'n fras

Salsa Coriander:

  • 1 Winwnsyn coch, wedi'i dorri'n fân
  • 30ml (2 lwy fwrdd) O fintys ffres, wedi'i dorri
  • 30ml (2 lwy fwrdd) O goriander ffres, wedi'i dorri
  • 1 Tsili gwyrdd, heb hadau ac wedi'i dorri'n fân
  • Chapatis i weini

Gwybodaeth am faeth

  • Calorïau 419 kcal
  • Egni 1754KJ
  • Braster 19g
  • Braster Dirlawn 6.4g
  • Halen 1.0g
  • Haearn 6.4g
  • 5-y-dydd 2