Peli Sbeislyd o Gig Oen Cymru, Llugaeron a Datys



Method

  1. Cymysgwch y cynhwysion i gyd mewn dysgl fawr nes byddent wedi cyfuno'n gyfangwbl. Rhannwch y cymysgedd yn 18 darn, yn fras, a'u siapio'n belenni bach. Rhowch nhw ar sgiwer (1-2 i bob ffon).
  2. Griliwch am 8-12 munud neu nes byddent wedi coginio'n drwyadl.
  3. Gweinwch gyda rhosmari a bara pitta wedi'i dostio gyda menyn arno, a hwmws hufennog neu dip hufen sur a chennin syfi.

Recipe Information

Serves 4
Calories 222 kcals
Cooking Time

Bydd Angen

  • 450g (1 pwys) o friwgig oen Cymru coch
  • 30ml (2 lwy fwrdd) o saws llugaeron
  • 50g (2 owns) o ddatys sych, wedi'u torri'n fras
  • 1 chilli coch, wedi tynnu'r hadau a'u torri'n fân
  • Halen a phupur

Gwybodaeth am faeth

  • Calorïau 222 kcal
  • Egni 930 kj
  • Braster 9.0g
  • Braster Dirlawn 3.9
  • Halen 0.69g
  • Haearn 1.80mg
  • 5-y-dydd