Golwython Cig Oen Cymru gyda Saws Barbeciw Gludiog



Method

  1. Tymheredd: Nwy 4, 180°C, 350°F
  2. Rhowch y golwython cig oen mewn padell rhostio fawr sy'n gwrthsefyll gwres.
  3. Cymysgwch y sudd ffrwythau, y ddau saws, y mwstard a'r 5-sbeis gyda'i gilydd. Taenwch dros y cig, gan droi'r cig i sicrhau bod y saws yn mynd drostynt i gyd.
  4. Rhowch y cig yn y popty a'i goginio am 20 munud nes bo ymylon y braster yn dechrau tywyllu.
  5. Ar ôl 20 munud, tynnwch nhw o'r popty ac arllwys y saws yn ofalus i jwg.
  6. Rhowch y cig yn ôl yn y popty am 5 munud arall i droi'n fwy gludiog ac euraid.
  7. Gweinwch gyda'r saws barbeciw, tatws pôb a thywysennau corn.

Recipe Information

Serves 4
Calories 563 kcals
Cooking Time

Bydd Angen

  • 8 golwython coch o lwynau cig oen Cymru
  • 150ml (¼pt) o sudd afal a mango (neu flas tebyg)
  • 45ml (3 llwy fwrdd) saws coch
  • 15ml (1 llwy fwrdd) saws brown
  • 15ml (1 llwy fwrdd) mwstard
  • 2.5ml (½ llwy de) 5-sbeis Tsieineaidd

Gwybodaeth am faeth

  • Calorïau 563 kcal
  • Egni 2338kj
  • Braster 43.5g
  • Braster Dirlawn 20.2g
  • Halen 1.53g
  • Haearn 2.81mg
  • 5-y-dydd