Byrgyr Cig Oen Cymru & Bricyll



Method

  1. Cynheswch yr olew mewn padell fach a choginiwch y winwns yn ysgafn.
  2. Ychwanegwch y powdwr cyrri a choginiwch am 1-2 munud. Gadewch nhw i oeri ychydig.
  3. Rhowch y briwgig oen a'r bricyll mewn dysgl fawr ac ychwanegwch y winwns.
  4. Cymysgwch yn dda gyda'i gilydd a rhannwch y cymysgedd yn 4 neu 6 a'u ffurfio'n fyrgyrs. Rhowch y byrgyrs o dan gril wedi ei dwymo'n barod neu ar farbeciw poeth am 8-12 munud, gan droi bob hyn a hyn nes eu bod wedi coginio'n drwyadl.
  5. Gweinwch gyda mayonnaise cyrri a couscous sbeislyd.

Recipe Information

Serves 6
Calories 204 kcals
Cooking Time

Bydd Angen

  • 450g (1lb) briwgig Cig Oen Cymru
  • 5ml (1 llwy de) olew
  • 1 winwnsyn bach, wedi ei bilio a'i dafellu'n denau
  • 5ml (1 llwy de) powdwr cyrri mwyn
  • 50g (2oz) bricyll sych, wedi eu torri'n fras

Gwybodaeth am faeth

  • Calorïau 204 kcal
  • Egni 853 kj
  • Braster 9.4g
  • Braster Dirlawn 0.1g
  • Halen 0
  • Haearn 0.99mg
  • 5-y-dydd