Stecen syrlwyn gyda blas Groegaidd a phum cylch llysiau



Method

  1. Cymysgwch y garlleg, oregano a’r olew, halen a phupur a’r ouzo neu win gwyn.
  2. Ychwanegwch y stêcs a’u gorchuddio’n dda â’r gymysgedd. Gorchuddiwch nhw a’u gadael i farineiddio yn yr oergell am ryw awr.
  3. Tynnwch y stêcs o’r marinâd. Taniwch y barbeciw neu’r radell yn barod a choginiwch y stêcs am: 2 funud bob ochr – gwaedlyd 4 munud bob ochr – cymedrol 6 munud bob ochr – trylwyr Gadewch y stêcs i sefyll am bum munud cyn gweini.
  4. Sut i wneud cytew tempwra: Rhowch y blawd, y blawd corn a halen mewn powlen. Ychwanegwch y dŵr pefriol a chymysgwch y cyfan tan fod y cytew yn llyfn.
  5. Rhowch ddigon olew mewn sosban fawr – tua 5cm neu 2 fodfedd o ddyfnder a’i dwymo’n ofalus. Rhowch binsiad o flawd yn yr olew – os yw’n gwneud sŵn ‘hisian’ yna mae’r olew’n barod. Dipiwch bob llysieuyn yn y cytew yn gyntaf cyn eu gollwng yn ofalus i’r olew. Coginiwch nhw fesul tipyn nes eu bod yn frown euraid, a’u draenio ar bapur cegin.

Recipe Information

Serves 4
Calories 366 kcals
Cooking Time

Bydd Angen

  • 4-6 stêc syrlwyn Cig Eidion Cymru
  • 2 glof o arlleg, wedi’u torri’n fân
  • 15ml (1 llwy fwrdd) o oregano sych neu 30ml (2 lwy fwrdd) o oregano ffres, wedi’u torri
  • 30ml (2 lwy fwrdd) olew olewydd
  • Pupur a halen
  • 30ml (2 lwy fwrdd) o ouzo neu win gwyn
  • 1 pupur coch a melyn bach, wedi’u torri’n gylchoedd
  • 1 winwnsyn bach, wedi’i sleisio
  • 1 courgette bach, wedi’i sleisio
  • 1 planhigyn wy bach, wedi’i sleisio
  • Olew ar gyfer ffrïo dwfn

Cytew tempwra:

  • 85g (3½ oz) o flawd plaen
  • 15ml (1 llwy fwrdd) o flawd corn
  • 200ml (7floz) o ddŵr oer pefriol

Gwybodaeth am faeth

  • Calorïau 366 kcal
  • Egni 1534KJ
  • Braster 16g
  • Braster Dirlawn 3.7g
  • Halen 0.7g
  • Haearn 2.8g
  • 5-y-dydd 1