Salad Waldorf Cig Eidion Cymru



Method

  1. Rhowch ddigon o bupur du ar y stêcs cig eidion. Coginiwch nhw ar radell wedi'i chynhesu ymlaen llaw neu griliwch nhw am 3 munud ar bob ochr i'w coginio'n gymedrol.
  2. Yn y cyfamser, rhowch yr afalau, y seleri, y cnau Ffrengig a chroen ½ oren mewn powlen a'u cymysgu â'i gilydd. Cymysgwch y sinsir, sudd a chroen hanner arall yr oren a'r surop masarn. Ychwanegwch y gymysgedd at y ffrwythau a throi a throsi'r cyfan. (Am ddresin hufennog, cymysgwch hyn â 60ml (4 llwy fwrdd) o iogwrt plaen).
  3. Torrwch y stêc yn ddarnau trwchus a'u gosod ar ben y gymysgedd ffrwythau cyn troi a throsi'r cyfan â'i gilydd. Ychwanegwch lond llaw fawr o ddail berwr a gweinwch â bara crystiog.

Recipe Information

Serves 2
Calories 324 kcals
Cooking Time

Bydd Angen

  • 225g (8oz) o stêcs ffolen Cig Eidion Cymru
  • 2 afal, heb y craidd ac wedi'u sleisio
  • 2 ffon o seleri, wedi'u sleisio'n denau
  • 25g (1oz) o gnau Ffrengig, wedi'u torri'n fras
  • 1 oren, croen a sudd
  • Darn 1.25cm (½") o sinsir ffres, wedi'i blicio a'i gratio
  • 30ml (2 lwy fwrdd) o surop masarn

Gwybodaeth am faeth

  • Calorïau 474 kcal
  • Egni 1969KJ
  • Braster 30g
  • Braster Dirlawn 6.6g
  • Halen 1.4
  • Haearn 2.4
  • 5-y-dydd 1.5