Brechdanau Stecen Cig Eidion Cymru gyda mayo llugaeron



Method

  1. Yn gyntaf, twymwch olew mewn padell fechan a choginio’r madarch wedi’u sleisio a’r tsili’n ysgafn nes eu bod yn dechrau meddalu. Ar ôl i’r gymysgedd feddalu, tynnwch ef o’r sosban.
  2. Rhowch y stêcs yn y badell a choginio am 2-3 munud bob ochr.
  3. Ar ôl i’r stêcs goginio, cymysgwch y saws llugaeron a’r mayonnaise gyda’i gilydd.
  4. Yna, tostiwch y tafelli bara’n ysgafn, taenu menyn arnyn nhw, a rhoi’r stêcs a’r madarch a thalp o fayonnaise arnyn nhw.
  5. Gweinwch fel canapés bychain neu fel gwledd amser cinio.

Recipe Information

Serves 8
Calories 592 kcals
Cooking Time

Bydd Angen

  • 4-6 o stêcs Cig Eidion Cymru wedi’u torri’n denau – rymp, ochr ochrau’r forddwyd neu syrlwyn
  • 8 tafell o fara crystiog – defnyddiwch fara â blas penodol – olifau, tomatos heulsych neu fara hadau
  • 15 ml (1 llwy fwrdd) o olew olewydd
  • 2 fadarchen fawr, wedi’u sleisio
  • 1 tsili gwyrdd, heb yr hadau ac wedi’i dorri’n fân
  • Halen a phupur
  • 30 ml (2 lwy fwrdd) o fayonnaise
  • 30 ml (2 lwy fwrdd) o saws llugaeron
  • Menyn i daenu

Gwybodaeth am faeth

  • Calorïau 592 kcal
  • Egni 2495
  • Braster 23g
  • Braster Dirlawn 8.8g
  • Halen 2.7g
  • Haearn 4.1g
  • 5-y-dydd 0