Stêcs Cig Eidion Cymru gyda jam chilli, cennin a thomato



Method

  1. Coginiwch y stêcs ar blât gridyll, padell ffrïo neu gril poeth wedi'i dwymo o flaen llaw am: Syrlwyn ffolen neu 2-3cm (¾-1¼") Gwaedlyd = 3-4 munud bob ochr lygad yr asen Canolig = 4-5 munud bob ochr Wedi'i goginio'n dda = 6-7 munud bob ochr
  2. Gadewch i'r stêcs orffwys am funud neu ddau cyn eu gweini.
  3. Twymwch yr olew yn y badell ac ychwanegwch y cennin, winwns, garlleg a chilli. Coginiwch nes bo'n dechrau meddalu.
  4. Ychwanegwch y tomatos, siwgr a finegr a choginiwch am oddeutu 10-15 munud nes bo'n dechrau tewychu ac yn mynd ychydig yn ludiog.
  5. Gweinwch y stêc gyda'r jam chilli a chennin creisionllyd wedi ffrïo.

Recipe Information

Serves 2
Calories 458 kcals
Cooking Time

Bydd Angen

  • 2 stecen syrlwyn, ffolen neu lygad yr asen trwchus o gig eidion Cymru
  • 15ml (1 llwy fwrdd) olew olewydd
  • 1 genhinen, wedi'i thorri'n fân
  • 1 winwnsyn, wedi'i dorri'n fân
  • 1 ewin garlleg, wedi'i wasgu
  • 2 chilli coch, wedi tynnu'r hadau a'i dorri'n fân
  • 4 tomato, wedi'u torri'n fras
  • 100g (4oz) siwgr Demerara
  • 45ml (3 llwy fwrdd) finegr gwin coch

Gwybodaeth am faeth

  • Calorïau 458 kcal
  • Egni 1933kJ
  • Braster 11.4g
  • Braster Dirlawn 3.0g
  • Halen 0.27g
  • Haearn 5.95mg
  • 5-y-dydd 4