Stecen llygad yr asen gyda madarch mewn garlleg ac wy wedi’i ffrio mewn tsili



Method

  1. Cynheswch yr olew a’r menyn mewn padell ffrio fawr ac ychwanegwch y stêcs am: 2 funud bob ochr am gig gwaedlyd 4 munud bob ochr am gig wedi’i goginio’n weddol 6 munud bob ochr am gig wedi’i goginio’n dda
  2. Tynnwch y stêcs o’r gwres a’u gadael am 3-5 munud.
  3. Mewn sosban arall cynheswch y menyn a’r garlleg a choginiwch y madarch yn araf nes eu bod yn feddal.
  4. Cynheswch yr olew tsili a’r tsili mewn padell ffrio a ffriwch yr wyau fel yr hoffech. Gweinwch y stêcs gyda’r wyau, madarch a sglodion tew.

Recipe Information

Serves 2
Calories 476 kcals
Cooking Time

Bydd Angen

  • 2 stecen llygad yr asen neu syrlwyn cig eidion Cymru heb lawer o fraster
  • 15ml (1 llwy fwrdd) o olew olewydd
  • Darn o fenyn
  • Halen a phupur
  • 30ml (2 lwy fwrdd) o olew tsili
  • 1 tsili coch, heb hadau wedi’i sleisio
  • 2 wy
  • 4 madarchen Portobello fawr
  • 13g / 0.5 owns o fenyn
  • 3 chlof o arlleg, wedi’u sleisio

Gwybodaeth am faeth

  • Calorïau 476 kcal
  • Egni 873kJ
  • Braster 37g
  • Braster Dirlawn 11.9g
  • Halen 1.1g
  • Haearn 4.5g
  • 5-y-dydd 0.5