Stec Sirloin Cig Eidion Cymru gyda Saws Oren



Method

  1. Twymwch radell neu badell ffrio fawr ymlaen llaw.
  2. Rhowch y stêcs ar blât, ysgeintiwch y croen oren a'r pupur du drostynt.
  3. Rhowch y stêcs ar y radell neu'r badell a'u coginio am: 2 munud bob ochr - gwaedlyd 4 munud bob ochr - cymhedrol 6 munud bob ochr - coginio'n dda
  4. Tynnwch y stêcs o'r badell - cadwch nhw'n gynnes ac ychwanegwch y sudd oren, berwch i wneud saws tenau hawdd ei arllwys - os yw'n tewychu'n rhy gyflym, ychwanegwch ychydig mwy o sudd.
  5. Hidlwch y saws, arllwyswch dros y stêcs a gweinwch.
  6. Gweinwch gyda sglodion llysiau tenau wedi'i gwneud o: foron, betys, pannas a thatws... Rhowch y rhain ar dun pobi gydag ychydig o olew a choginiwch am tua 30 munud nes eu bod yn grimp ac yn euraid.

Recipe Information

Serves 2
Calories 231 kcals
Cooking Time

Bydd Angen

  • 2 Stecen syrlwyn Cig Eidion Cymru
  • 5ml (1 llwy de) Olew'r olewydd
  • 2 Oren, y croen a'r sudd
  • Pupur du mâl

Gwybodaeth am faeth

  • Calorïau 231 kcal
  • Egni 966kj
  • Braster 10.6 g
  • Braster Dirlawn 3.0 g
  • Halen 0.21g
  • Haearn 1.92mg
  • 5-y-dydd 1