Pasta tomato cig eidion Cymru



Method

  1. Coginiwch y pasta yn ôl y cyfarwyddiadau ar y pecyn a'i ddraenio'n dda, neu defnyddiwch basta ffres wedi'i goginio.
  2. Mewn wok nad yw'n glynu, cynheswch yr olew, rhowch y cig i mewn a'i goginio ar wres uchel nes ei fod yn frown - tua 4 munud.
  3. Ychwanegch y garlleg, y pupur coch, y corbwmpenni a'r madarch a'u tro-ffrio am rai munudau nes y bydd y llysiau wedi meddalu.
  4. Trowch y tomatos, y perlysiau a'r pupur mâl i mehwn iddo.
  5. Codwch i'r berw a gadael iddo fudferwi dros wres isel. Ychwanegwch y pasta wedi'i goginio a'i gynhesu trwyddo nes ei fod yn boeth iawn.
  6. Taenwch dipyn o gaws cheddar neu parmesan wedi'i gratio drosto a'i weini gyda bara crystiog a salad.

Recipe Information

Serves 4
Calories 313 kcals
Cooking Time

Bydd Angen

  • 15ml olew
  • Dwy stecen o gig eidion Cymru - ffolen neu syrlwyn, wedi'u torri'n stribedi main
  • 200g siapiau pasta sych
  • 2 ewin garlleg, wedi'u pilio a'u malu
  • 1 pupryn coch, wedi'i sleisio
  • Dwy gorbwmpen, wedi'u torri'n giwbiau bach
  • 150g madarch, wedi'u torri'n ddarnau neu sleisys
  • Tun 400g tomatos wedi'u torri'n ddarnau
  • 30ml sôs tomato
  • 5ml perlysiau cymysg
  • 2.5ml pupur du wedi'i falu

Gwybodaeth am faeth

  • Calorïau 313 kcal
  • Egni 1324kJ
  • Braster 7.1g
  • Braster Dirlawn 1.6g
  • Halen 0.7g
  • Haearn 4.87mg
  • 5-y-dydd 2