Torth Gig Eidion Cymru gyda saws sbeislyd siarp



Method

  1. Rhowch gynhwysion y dorth gig i gyd mewn dysgl fawr a'u cymysgu'n drwyadl.
  2. Ychwanegwch yr halen a'r pupur. Paratowch dun bara 900g (2lb) drwy ei iro ac yna ei leinio gyda'r tafelli pancetta. Rhowch y cymysgedd yn y tun a'i wasgu i lawr yn dda.
  3. Pobwch mewn popty a dwymwyd o flaen llaw am 40-45 munud.
  4. Yn y cyfamser, ffrïwch y winwnsyn a'r garlleg yn sych am 1-2 munud, ychwanegwch y cwmin a gweddill cynhwysion y saws. Dewch â'r cyfan i'r berw a'i fudferwi am 8-10 munud.
  5. Gweinwch y dorth gig wedi'i sleisio, gyda bara crystiog, a'r saws wedi'i daenu'n ysgafn drosti.

Recipe Information

Serves 4
Calories 370 kcals
Cooking Time

Bydd Angen

  • 450g (1lb) o friwgig eidion Cymru coch
  • 25g (1oz) o geirch wedi'u rholio
  • 1 courgette, wedi gratio
  • 1 winwnsyn, wedi'i dorri'n fach
  • 1 ewin garlleg, wedi'i wasgu
  • 45ml (3 llwy fwrdd) o saws tomato
  • 5ml (1 llwy de) o berlysiau cymysg wedi sychu
  • Halen a phupur du
  • 8 tafell denau o pancetta neu facwn brith

Saws Sbeislyd Siarp:

  • 1 winwnsyn, wedi'i dorri'n fach
  • 1 ewin garlleg, wedi'i wasgu
  • 5ml (1 llwy fwrdd) cwmin
  • Tun 397g (14oz) o domatos mân
  • 30ml (2 lwy fwrdd) o saws tomato
  • 15ml (1 llwy fwrdd) o fwstard
  • Pinsiad o halen

Gwybodaeth am faeth

  • Calorïau 370 kcal
  • Egni 1548 kj
  • Braster 15.8g
  • Braster Dirlawn 5.3g
  • Halen 3.43g
  • Haearn 5.63mg
  • 5-y-dydd 2