
Cynhwysion
- 1.025kg darn ysgwydd Cig Oen Cymru PGI gyda hanner asgwrn neu heb asgwrn
- 1 winwnsyn, wedi ei blicio a’i dorri’n fras
- 4 ewin garlleg, wedi eu plicio a’u torri’n fras
- Sudd 1 lemon
- 2 lwy fwrdd olew hadau rêp
- 1 llwy de lawn yr un o ffenigrig mâl, paprica mâl, cwmin mâl a sinamon mâl
- 12 grawn pupur du
- Halen môr
210
Amser coginio
10
Amser paratoi
4
Yn gweini
- Rhagdwymo’r popty i 170°C / 150°C Ffan / Nwy 3.
- Trosglwyddo’r winwnsyn a’r garlleg i brosesydd bwyd neu flendiwr ‘bwled’. Ychwanegu’r sudd lemon, olew, sbeisys, grawn pupur ac ychydig o halen. Ei gymysgu nes ei fod yn bast.
- Rhoi’r darn cig oen mewn llestr rhostio neu goginiwr araf. Gyda chyllell finiog, torri ambell slaes i mewn i’r cig a rhwbio’r past dros y cig i gyd.
- Arllwys ychydig o ddŵr i waelod y llestr rhostio neu goginiwr araf. Gorchuddio’r llestr rhostio gyda ffoil a rhostio am 3 awr 30 munud, neu orchuddio’r coginiwr araf a choginio’n isel am 6 awr, neu’n uchel am 3 awr.
- Ei dynnu o’r popty neu’r coginiwr araf a’i adael i oeri fymryn cyn rhwygo’r cig oen gyda dwy fforc. Ei weini ar unwaith.
