Stêcs Coes Oen Cymraeg ar Ddull Thai gyda salad tomato a sinsir



Method

  1. Rhowch y stêcs oen mewn dysgl fas.
  2. Ychwanegwch y past Thai gwyrdd a hanner y sinsir a'r garlleg.
  3. (Cadwch hanner arall y sinsir a'r garlleg a'u defnyddio yn y dresin ar gyfer y salad.) Cymysgwch hwn a'i rwbio dros ddwy ochr y stêcs. Gorchuddiwch nhw a'u gadael nes byddent yn barod i'w coginio.
  4. Paratowch y Salad: Torrwch y chilli a'r sinsir yn fân neu eu taro â'i gilydd mewn pestl a mortar, nes byddent yn weddol llyfn
  5. Ychwanegwch yr olew a'r pupur du, a'u cymysgu â'i gilydd.
  6. Ychwanegwch y tomatos, eu cymysgu a gadael iddynt sefyll yn nhymheredd yr ystafell nes bo'r stêcs yn barod Twymwch blât gridyll neu gril o flaen llaw a choginio'r stêcs oen am oddeutu 4-6 munud bob ochr (yn dibynnu ar drwch y stêcs).
  7. Wedi iddynt goginio, rhowch nhw ar blât, ychwanegwch fymryn o fenyn ar ben pob stecen a gadael iddynt sefyll am 3-5 munud.
  8. Gweinwch y stêc gyda'r sudd menyn a'r salad sinsir a thomato.

Recipe Information

Serves 2
Calories 435 kcals
Cooking Time

Bydd Angen

  • 4 stecen coes oen Cymru sy'n goch
  • 10ml (2 llwy de) past Thai gwyrdd
  • 1 chilli gwyrdd, wedi tynnu'r hadau a'u torri'n fân
  • 1" sinsir ffres, wedi'i bilio a'i dorri'n fân
  • mymryn o fenyn
  • 5ml (1 llwy de) olew olewydd
  • pupur du
  • 2 domato ffres wedi'u sleisio

Gwybodaeth am faeth

  • Calorïau 435 kcal
  • Egni 1816 kj
  • Braster 25.9g
  • Braster Dirlawn 10.7g
  • Halen 0.84g
  • Haearn 4.90mg
  • 5-y-dydd