Cebabau Cig Oen Tandwri



Method

  1. Cymysgwch past tandwri, siytni, iogwrt a mintys mewn bowlen.
  2. Ychwanegwch y cig oen a'i gymysgu'n drwyadl a'i orchuddio a'i rhoi mewn oergell. Gadewch yn y marinâd am oddeutu 30 munud i 4 awr. (Yr hirach y byddwch yn gadael y cig yn y marinâd, y cryfaf bydd y blas.) Rhowch y cig ar sgiwerau. Coginiwch o dan gril a rag poethwyd neu farbiciw am oddeutu 15 munud a'i droi ambell waith.
  3. Gweinwch gyda salad o datws sbeislyd - tatws newydd, tomatos melyn, ciwcymbr, sbigoglys, coriander a mayonnaise, wedi ei gymysgu â siytni mango sbeislyd a phlât ochr o popadoms.

Recipe Information

Serves 2
Calories 248 kcals
Cooking Time

Bydd Angen

  • 15ml (1 llwy fawr) past tandwri
  • 15ml (1 llwy fawr) siytni mango sbeislyd
  • 45ml (3 llwy fawr) iogwrt naturiol o fraster isel
  • 15ml (1 llwy fawr) mintys ffres wedi ei dorri'n fân
  • 225g (8 owns) stêcs cig oen coch, wedi eu trimio a'u torri mewn ciwbiau 2.5cm (1")

Gwybodaeth am faeth

  • Calorïau 248 kcal
  • Egni 1041kj
  • Braster 11.7 g
  • Braster Dirlawn 4.3 g
  • Halen 1.00g
  • Haearn 3.06mg
  • 5-y-dydd