Am fwr o ryseitiau blasus gan Sabrina, ewch i’w gwefan yma.
- Cynheswch sosban fawr dros wres canolig-uchel a diferu digon o olew ynddi i orchuddio gwaelod y sosban. Ychwanegwch y winwns a’u coginio am ychydig funudau nes eu bod yn lled dryloyw.
- Trowch y gwres i fyny ychydig, ychwanegwch y cig a’i droi i’w orchuddio yn y winwns. Ychwanegwch y sbeisys a’u troi’n dda, gan sicrhau bod y cig wedi ei orchuddio’n gytbwys ac yna ychwanegwch y garlleg a’i droi. Sesnwch yn hael gyda halen a phupur. Ychwanegwch y mêl a’r sudd lemon a’i gymysgu eto nes ei fod wedi ei orchuddio’n gytbwys. Trowch y gwres i lawr i wres canolig a thywallt digon o ddŵr berw i orchuddio’r cig i gyd. Cymysgwch y cyfan am y tro olaf, yna heb y caead, coginiwch am 1 awr 45 munud, gan ei droi’n achlysurol ac ychwanegu mwy o hylif os oes angen.
- Mewn padell ffrio fechan dros wres canolig-uchel, ffriwch y cnau almon yn sych am ychydig funudau ar y ddwy ochr nes eu bod wedi’u llosgi/brownio’n dda ac yna eu tynnu oddi ar y gwres a’u rhoi o’r neilltu.
- Ar ôl awr, blaswch y saws ac addasu’r sesnin at eich dant. Ychwanegwch y bricyll a’r haneri eirin, eu troi, a gadewch iddynt fudferwi’n ysgafn am 45 munud arall, gan eu troi’n achlysurol.
- Ar ôl iddo goginio, bydd y cig oen yn hyfryd ac yn frau. Tynnwch oddi ar y gwres a dewis powlen lydan, fas i’w weini. Arllwyswch y stiw i mewn i ddysgl gweini, ysgeintiwch y cnau almon a’r persli drosto cyn gweini. Perffaith gyda couscous, reis neu fara croyw.