facebook-pixel

Stêc llygad yr asen Cig Eidion Cymru gyda madarch a chaws pob gan Matt Waldron

  • Amser paratoi 30 mun
  • Amser coginio 1 awr
  • Ar gyfer 2

Bydd angen

  • 1 x 10oz stêc llygad yr asen Cig Eidion Cymru PGI
  • 175g blawd plaen
  • 1 llwy fwrdd saws Worcestershire
  • 100ml cwrw tywyll (mae Double Dragon Felinfoel yn gweithio’n dda)
  • 80g mwstard grawn cyflawn
  • 125g caws wedi ei ratio (mae Cheddar Hafod yn gweithio’n dda)
  • 1 winwnsyn coch, wedi ei dorri’n hanner
  • 1 llwy fwrdd siwgr brown tywyll
  • 50ml port
  • 2 fadarchen fflat
  • 300ml gweddillion grefi cinio dydd Sul neu 300ml stoc Cig Eidion
  • ½ llwy de pupur du ffres
  • 3 llwy fwrdd grawn pupur gwyrdd
  • 200ml hufen dwbl
  • 16 taten newydd Sir Benfro
  • Joch o laeth
  • 100g blawd plaen
  • 100ml cwrw double dragon
  • Joch o ddŵr soda
  • Halen a phupur
  • Llond llaw o deim ffres
  • Ychydig o olew
  • ½ bloc o fenyn

Dull

  1. Rhagdwymo’r popty i 180ºC / 160 ºC ffan/ Nwy 3 a rhostio’r tatws newydd Sir Benfro am ryw 15 – 20 munud.
  2. I wneud y winwnsyn wedi ei frwysio, torri top a gwaelod y winwnsyn – heb dynnu’r croen allanol gan mai hwn sy’n dal y winwnsyn gyda’i gilydd. Torri’r winwnsyn yn hanner a’i osod gyda’r cnawd i lawr mewn padell ffrio gydag ychydig o olew. Ychwanegu talp o fenyn, ysgeintiad o deim a llwy fwrdd o siwgr brown tywyll a’i ffrio tan ei fod yn euraidd. Ychwanegu’r port cyn troi’r winwnsyn drosodd a’i roi mewn popty poeth ar 180℃ am 8 munud cyn ei dynnu allan o’r popty a thynnu’r croen allanol oddi ar y winwnsyn a’i weini.
  3. Twymo ychydig o olew mewn gradell (neu badell ffrio, ond fydd dim marciau crino hyfryd) tan ei bod yn boeth, ac ar ôl rhwbio dwy ochr y stêc gyda halen, pupur ac olew, ei rhoi yn y badell. Ei ffrio am ychydig funudau, gan ofalu rhag ei llosgi gan na fydd y siwgr yn carameleiddio. Unwaith i’r stêc goginio at eich dant, ei thynnu allan o’r badell a’i gorffwys am 5 i 6 munud.
  4. Tynnu coesau’r madarch, rhoi ambell dalp o fenyn yn y gwpan gydag ychydig o deim, halen, pupur ac olew. Eu gosod gyda’r cwpanau i fyny yn y popty ar 190ºC am ryw 10 munud.
  5. I wneud y caws pob ar gyfer y top, gwneud roux trwy doddi’r menyn mewn sosban ganolig cyn ychwanegu’r blawd a choginio am 2 i 3 munud ar wres isel. Twymo’r cwrw mewn sosban arall tan ei fod yn boeth, ond ddim yn berwi, a’i ychwanegu’n raddol at y roux tan ei fod yn llyfn ac wedi cyfuno (bydd y saws yn lympiog os caiff hwn ei ychwanegu’n rhy gyflym). Tynnu’r sosban o’r gwres ac ychwanegu’r mwstard, y saws Worcestershire a’r caws, a’u cymysgu’n drwyadl. Unwaith i’r madarch goginio, stwffio’r gwpan â’r caws pob.
  6. I wneud y saws grawn pupur, defnyddio sylfaen o grefi dros ben, neu stoc Cig Eidion. Twymo’r grefi neu’r stoc ac ychwanegu’r grawn pupur gwyrdd, pinsiad o halen a’r hufen dwbl – cymysgu’r cyfan yn dda.
  7. I wneud y cylchoedd winwns, torri winwnsyn mewn cylchoedd a socian y cylchoedd mewn ychydig o laeth am funud neu ddau. Twymo peiriant ffrio dwfn (neu badell ffrio ddofn ag olew) i ryw 180ºC / 160 ºC ffan/ Nwy 3. I wneud y cytew, cyfuno’r blawd, y dŵr soda, pinsiad o halen a’r cwrw a’u cymysgu gan ddefnyddio chwisg tan fod y gymysgedd ychydig yn deneuach na chymysgedd cacen. Gorchuddio’r cylchoedd winwns mewn blawd ac yna yn y cytew, gan sicrhau eu bod wedi eu gorchuddio’n drwchus, cyn eu gollwng yn syth i’r peiriant ffrio a’u ffrio tan eu bod yn euraidd ac yn crensian. Eu tynnu allan o’r peiriant ffrio cyn rhoi halen arnyn nhw tra eu bod dal yn seimllyd ac yn boeth.
  8. Rhoi’r holl gynhwysion ar blat a mwynhau!
Share This