Pwmpen wedi'i stwffio a Chig Eidion Cymru sbeislyd



Method

  1. Cynheswch y popty ymlaen llaw i 180C neu farc nwy 4.
  2. Mewn wok neu sosban fawr nad yw'n glynu, ffriwch y briwgig yn sych nes ei fod yn frown. Ychwanegwch y winwnsyn a'r garlleg a choginiwch am 1-2 munud.
  3. Ychwanegwch weddill y cynhwysion a dewch â'r cyfan i'r berw. Rhowch y bwmpen ar waelod dysgl rostio ddofn.
  4. Llenwch gyda'r cymysgedd briwgig, ychwanegwch ychydig o ddwr i waelod y ddysgl a gorchuddiwch y ddysgl gyfan â ffoil.
  5. Coginiwch am 50 munud neu nes bod y bwmpen yn frau.
  6. Gweinwch gyda bara crystiog neu fara naan wedi ei dostio.

Recipe Information

Serves 4
Calories 243 kcals
Cooking Time

Bydd Angen

  • 450g (1lb) briwgig cig eidion coch
  • 1 winwnsyn, wedi'i dafellu
  • 2 ewin garlleg, wedi eu gwasgu
  • 1 courgette, wedi ei dorri'n giwbiau
  • 400g (tua) tun tomatos wedi'i malu
  • 30ml (2 lwy fwrdd) past cyrri tikka
  • 15ml (1 llwy fwrdd) purée tomato
  • 30ml (2 lwy fwrdd) siytni mango
  • 8 tomato bach, wedi eu haneru
  • 1 pwmpen neu squash fawr neu 3 fach, heb y top a'r hadau wedi'u tynnu allan
  • Coriander ffres i addurno

Gwybodaeth am faeth

  • Calorïau 243 kcal
  • Egni 1020kj
  • Braster 7.5 g
  • Braster Dirlawn 2.1 g
  • Halen 1.02g
  • Haearn 5.67mg
  • 5-y-dydd 2